LLwybr Pererindod Gwyr

Gŵyr oedd yr ardal gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae’r penrhyn yn lle godidog i fynd i gerdded. Yn ystod haf 2022 agorir Llwybr Pererindod Gŵyr yn swyddogol. Mae’r llwybr 50 milltir o hyd yn cysylltu pob un o’r 17 eglwys hanesyddol ar Benrhyn Gŵyr, ac yn cynnwys sawl capel a safle Cristnogol cysegredig ar hyd y ffordd. Bydd yn dechrau ym Mhen-clawdd yn y gogledd-ddwyrain, ac yn teithio o gwmpas y penrhyn gan ddod i ben yn Sant Teilo yn Llandeilo Ferwallt yn y de-ddwyrain. Cyn yr agoriad, mae llwybr y bererindod ar gael drwy’r wefan hon. Nodwch hyd nes y cynhelir yr agoriad swyddogol, na fydd trefniadau ar waith i agor yr eglwysi.

Mae Adrian Chiles, y cyflwynydd teledu a radio, wedi cytuno’n garedig i weithredu fel Noddwr y Llwybr Pererindod.

Dolen facebook: https://www.facebook.com/groups/362597768923064

Sylwch na allwn gymryd cyfrifoldeb am eich diogelwch pan fyddwch yn cerdded neu’n beicio ar hyd y Llwybr Pererindod, nac am gywirdeb y wybodaeth a ddarperir ynglŷn â’r llwybrau.

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government and supported by Swansea Rural Development Partnership at Swansea Council.